Rydym yma i’ch tywys a’ch helpu chi drwyddo
Mae ein tîm proffesiynol yn cynnig ystod lawn o wasanaethau angladd. P’un a ydych yn chwilio am angladd traddodiadol, amlosgiad neu gladdedigaeth, amlosgiad uniongyrchol neu wasanaethau angladd personol.
Wedi’i sefydlu ers dros 25 mlynedd, gydag 8 trefnydd angladdau ymroddedig, rydym yn un o’r trefnwyr angladdau mwyaf yn Ne Cymru gyda 4 lleoliad ar draws Caerdydd, Dinas Powys a Chasnewydd.


Cyfathrebu yn Gymraeg
Fel cwmni angladdau Cymreig, gallwn gynnig ein gwasanaethau yn y Gymraeg. Er bod y rhan fwyaf o’n cyfathrebiadau yn Saesneg, gallwn drefnu i chi
gael trefnydd angladdau sy’n siarad Cymraeg.
Tosturiol, Urddasol, Parchus
Mae Green Willow Funerals yma i wasanaethu teuluoedd a chymunedau ar draws De-ddwyrain Cymru. Y tu hwnt i’n sylw i fanylion a gwasanaeth o ansawdd uchel, mae llawer yn dewis Green Willow Funerals gan ein bod yn fenter gymdeithasol arobryn a chaiff ein helw ei roi Ymddiriedolaeth YMCA Caerdydd (1910), sy’n ariannu prosiectau lleol ar draws De Cymru.
25 mlynedd o brofiad
Mae gennym gyfoeth o brofiad ar ôl gwasanaethu cymunedau ar draws De-ddwyrain Cymru ers dros chwarter canrif.
Gwasanaeth proffesiynol
Rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaeth proffesiynol a ddarparwn i helpu
teuluoedd trwy gyfnodau anodd.
Sensitif a pharchus
Rydym yn darparu’r gofal a’r sylw mwyaf, gan sicrhau ein bod yn rhoi’r ffarwel urddasol maent yn ei haeddu i anwyliaid.
Ar gael 24/7
Mae ein llinellau ar gael 24/7 ddydd a nos, rydym yn sicrhau ein bod yma i chi pan fyddwch ein hangen fwyaf.
Gall colli anwylyd fod yn un o’r profiadau anoddaf mewn bywyd. Gall fod yn llethol ac yn boenus, gyda’n profiadau yn unigryw i ni ein hunain.
Beth i’w wneud pan fydd anwylyd yn marw’n annisgwyl?
Ffoniwch 999 ar unwaith i ofyn am ambiwlans. Os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys, bydd angen i’r gwasanaethau brys drefnu i’ch anwylyd gael ei gymryd i ofal y crwner. Yn dilyn ymchwiliad y crwner, gall darparwyr angladdau drefnu i gymryd eich anwylyd i’w gofal.
Beth i’w wneud pan fydd anwylyd yn marw gartref?
Os oedd disgwyl y farwolaeth, yn y lle cyntaf dylech ffonio meddyg teulu eich anwylyd. Os bydd marwolaeth eich anwylyd yn digwydd y tu allan i oriau gweithredu’r Meddyg Teulu, dylech ffonio’r GIG ar 111 (ar gael 24/7). Unwaith y bydd achos y farwolaeth wedi’i sefydlu, bydd y meddyg yn ardystio’r farwolaeth. Ar yr adeg hon gall darparwyr angladd ddod â’ch anwylyd i’w gofal.
Beth i’w wneud pan fydd anwylyd yn marw yn yr ysbyty?
Bydd staff yr ysbyty yn cysylltu â’r perthynas agosaf neu berthynas agos. Ar ôl cael gwybod am farwolaeth eich anwylyd, bydd eich anwylyd yn cael ei symud i farwdy’r ysbyty. Ar yr adeg hon, gall eich trefnydd angladdau drefnu i’ch anwylyd gael ei gymryd i’w ofal. Os oedd y farwolaeth yn annisgwyl, efallai y bydd angen ymchwiliad crwner.
Beth i’w wneud pan fydd anwylyd yn marw mewn lleoliad gofal?
Byddai angen i’r farwolaeth gael ei hardystio gan feddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol priodol. Mae staff gofal wedi’u hyfforddi i sicrhau bod eich anwylyd yn cael gofal priodol pe bai’n marw. Dylai gweithwyr gofal proffesiynol symud eich anwylyd i ofod preifat nes y gall eich darparwr
angladdau fynd â’ch anwylyd i’w ofal. Os oedd y farwolaeth yn annisgwyl, efallai y bydd angen ymchwiliad crwner.
Beth i’w wneud pan fydd anwylyd yn marw y tu allan i’r DU?
Os ydych chi’n teithio gyda nhw, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw cysylltu â’r llysgenhadaeth Brydeinig agosaf. Os nad ydych yn teithio gyda’ch anwylyd, bydd cynrychiolydd o lysgenhadaeth Prydain yn hysbysu’r perthynas agosaf. Bydd llysgenhadaeth Prydain yn gallu darparu cymorth pellach ar gofrestru’r farwolaeth a dod â’ch anwylyd adref. (Gall y ddeddfwriaeth amrywio yn dibynnu ar yr awdurdodaeth berthnasol).

Ymddiriedolaeth 1910,
ein perchennog elusen
Fel menter gymdeithasol, mae ein helw yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth YMCA Caerdydd (1910), sy’n ariannu prosiectau a gweithgareddau cymunedol lleol ar draws De Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Golden Charter sy’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau angladd i weddu i’ch
anghenion.
Mae cynllun angladd yn ffordd hawdd o drefnu’r angladd rydych chi ei heisiau o flaen llaw.
Mae cynllun yn caniatáu i chi nodi eich dymuniadau a thalu amwasanaethau’r trefnydd angladdau sydd wedi’u cynnwys yn eich cynllun. Fel y dywed ein cwsmeriaid wrthym yn aml, gall hynny ddod â thawelwch meddwl i chi a’ch teulu. Mae cynllun gan Golden Charter hefyd yn cynnwys lwfans tuag at gostau trydydd parti. Mae’r rhain yn wasanaethau hanfodol nad ydynt yn perthyn i’r trefnwyr angladdau, megis ffioedd amlosgi neu gladdu, ynghyd â ffi’r gweinidog neu’r gweinydd i gyflawni’r gwasanaeth. Gall gwerth y lwfans a gynhwysir yn eich cynllun dyfu dros amser. Dim ond os bydd costau trydydd parti yn fwy na’r lwfans pan fyddwch yn prynu’ch cynllun, neu os yw’r costau’n cynyddu o fwy na thwf eich cynllun, y bydd mwy i’w dalu ar adeg yr angladd.

Cysylltwch â ni i drafod Cynlluniau Angladdau
Bydd ein tîm arbenigol yn gallu siarad â chi am fanylion a threfniadau eich angladd a drefnwyd ymlaen llaw
02920 524 200
